Gwefan wdi ei archifo

Mae'r wefan hon wedi ei archifo ac nid yw'n cael ei gynnal na'i diweddaru. Mae'n cael ei chadw ar gyfer pwrpasau archif a chyfeiriad yn unig.

Dadansoddiad

Casglwyd y data isod o'r ymatebion i'r chwe cwestiwn a ofynnwyd i 114 o osodwyr ym mhob cwr o Gymru gan ein cwsmeriaid cudd.

Meddai Cadeirydd Llais Defnyddwyr Cymru, Viv Sugar: “Mae unrhyw un sy'n dibynnu ar osodwyr erialau mewn perygl o fod â llun aneglur ar ôl Trosglwyddo i Ddigidol. Mae rhai gosodwyr yn rhagorol – ond mae gormod nad ydynt yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddefnyddwyr.

“Cawsom sioc arbennig o’r atebion ar sut i wirio eich derbyniad, gan i ychydig dros hanner ateb yn anghywir.”

Dyfarnwyd yr ymatebion i’r chwe cwestiwn yn gywir neu’n anghywir gan aelodau staff Llais Defnyddwyr Cymru, yn seiliedig ar atebion templed a ddarparwyd gan Digital UK. Mewn nifer fechan o achosion, ni atebwyd y cwestiwn, neu roedd yr ymateb mor amwys fel nad oeddem yn gallu categoreiddio. Rhoddwyd y rhain mewn trydydd categori.

Cwestiwn 1: Rwy’n ffonio ar ran fy mam. Mae hi’n poeni am y trosglwyddo digidol. Pryd bydd yn digwydd yn ei hardal hi?

Ardal Cywir Anghywir Aneglur
De-ddwyrain Cymru 29 5 1
Gogledd Cymru 32 11 2
Canolbarth a Gorllewin Cymru 31 3 0
Cyfanswm 92 19 3
Siart sy’n nodi’r dadansoddiad cyffredinol ar gyfer cwestiwn 1

Cwestiwn 2: A fydd angen erial newydd arni er mwyn i’w theledu weithio ar ôl y trosglwyddo?

Ardal Cywir Anghywir Aneglur
De-ddwyrain Cymru 26 9 0
Gogledd Cymru 27 14 4
Canolbarth a Gorllewin Cymru 27 5 2
Cyfanswm 80 28 6
Siart sy’n nodi’r dadansoddiad cyffredinol ar gyfer cwestiwn 2

Cwestiwn 3: Mae’n cael llun da nawr drwy analog. A fydd angen erial newydd arni serch hynny?

Ardal Cywir Anghywir Aneglur
De-ddwyrain Cymru 22 10 3
Gogledd Cymru 20 19 6
Canolbarth a Gorllewin Cymru 22 11 1
Cyfanswm 64 40 10
Siart sy’n nodi’r dadansoddiad cyffredinol ar gyfer cwestiwn 3

Cwestiwn 4: A oes unrhyw ffordd i mi gael gwybod a fydd angen erial newydd arni?

Ardal Cywir Anghywir Aneglur
De-ddwyrain Cymru 20 15 0
Gogledd Cymru 18 21 6
Canolbarth a Gorllewin Cymru 26 8 0
Cyfanswm 64 44 6
Siart sy’n nodi’r dadansoddiad cyffredinol ar gyfer cwestiwn 4

Cwestiwn 5: Faint fydd gosod erial newydd yn ei gostio?

Ardal Cywir Anghywir Aneglur
De-ddwyrain Cymru 31 1 3
Gogledd Cymru 36 4 5
Canolbarth a Gorllewin Cymru 32 0 2
Cyfanswm 99 5 10
Siart sy’n nodi’r dadansoddiad cyffredinol ar gyfer cwestiwn 5

Cwestiwn 6: A ydych chi’n aelod o gymdeithas fasnach neu wedi eich cymeradwyo mewn unrhyw ffordd?

Ardal Y N Aneglur
De-ddwyrain Cymru 17 16 2
Gogledd Cymru 16 19 10
Canolbarth a Gorllewin Cymru 28 4 2
Cyfanswm 61 39 14
Siart sy’n nodi’r dadansoddiad cyffredinol ar gyfer cwestiwn 6