Cyflwyniad
Trosglwyddo i Ddigidol yw digwyddiad unigol mwyaf y flwyddyn i ddefnyddwyr – ac mae'n cychwyn yng Nghymru fis nesaf. Mae Llais Defnyddwyr Cymru am sicrhau bod y wybodaeth gywir gan ddefnyddwyr fel y gallant fwynhau manteision dewis ehangach o sianeli a llun o ansawdd gwell.
Fel rhan o'n hymgyrch dros gyfnod o flwyddyn i sicrhau trosglwyddo i ddigidol yn ddiogel, mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi cynnal arolwg i weld a yw gosodwyr erialau yn rhoi'r cyngor cywir i ddefnyddwyr am drosglwyddo i ddigidol.
Ffoniodd Llais Defnyddwyr Cymru 198 o osodwyr yng Nghymru yn ystod yr wythnos 22-26 Mehefin. Cafwyd 114 o ymatebion. Roeddem yn gofyn chwe cwestiwn, a luniwyd yn wreiddiol gan Digital UK a Swyddogion Safonau Masnach yn Dorset. Rydym wedi defnyddio'r un cwestiynau er mwyn gallu cymharu gwahanol ardaloedd, ond addaswyd y sefyllfa gefndirol ar gyfer Cymru.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwaith mae Llais Defnyddwyr Cymru yn ei wneud ar y Trosglwyddo i Ddigidol, ewch i http://www.consumerfocus.org.uk/cy/news/index.aspx?area=4